Agorwyd pyrth
y nefoedd wiw,
Mi welaf fôr o waed;
A gallaf fi'r ffieiddia'n fyw,
Yn hollol gael glanhad.
O edrych arnaf, Arglwydd cu,
Mae bellach yn brydnawn:
A llanw euog sydd heb ddim
O'th nefol ddwyfol ddawn.
O tyr'd yn glau, mae'n gyflawn bryd,
'Rwy'n gruddfan dan fy mhoen;
A thywys fi i ffynon rad
Sancteiddiaf waed yr Oen.
- - - - -
Agorwyd pyrth
y nefoedd wiw,
Mi welaf fôr o waed:
A gallaf fi'r ffieiddia'n fyw,
Yn hollol gael iachâd.
Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd,
Gwrandewir llais y gwan:
O cyfod bellach f'enaid prudd,
Anadla tua'r làn.
Ac anfon eirchion aml ri',
I mewn i byrth y nef:
Gwrandewir pob amddifad gri,
Yn union ganddo ef.
'Rwy fel y gwiliwr ar y mur,
Yn dysgwyl gwel'd y wawr;
Dydd i gyhoeddi'r Iubil' fwyn,
Fy ngwaredigaeth fawr.
Ni fethodd gweddi daer erioed,
A chyrâedd hyd y nef;
Ac mewn cyfyngder f'enaid rhêd,
Yn union ato ef.
Mi 'nturiaf at orseddfa gras,
Dan eithaf tywyll nos;
Ac mi 'orphwysaf, doed a ddel,
Ar haeddiant gwaed y groes.
- - - - -
Agorwyd pyrth
y nefoedd wen,
Trwy rinwedd mawr y gwaed,
Fel gallwyf fi, 'r ffieiddiaf un,
Nesâu gerbron y Tad.
Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd,
Gwrandewir llais y gwan;
O cyfod bellach, f'enaid prudd,
Anadla tua'r lan.
O anfon eirchion aml ri'
I mewn i byrth y nef;
Gwrandewir pob amddifad gri
Yn union ganddo Ef.
Am hyny, enaid, ato rhed,
A'th gŵyn dod o'i flaen Ef;
Ni fethodd gweddi daer erioed
Gyrhaeddyd hyd y nef.
- - - - -
Agorwyd pyrth y nefoedd wen
Trwy rinwedd mawr y gwaed;
Fel gallaf fi'r ffieiddiaf un
Neshau ger bron y Tad.
Fe rodd ei ddwylaw pur ar led
Fe wisgodd goron ddrain;
Er mwyn dy gannu di yn wynn,
Fel hyfryd liain main.
Am hynny enaid atto rhed,
A'th gwŷn dod o'i flaen ef;
Ni fethodd gweddi daer erioed
Gyrhaeddyd hyd yn nef.
Esgyn a wnaeth i entrych ne'
I eiriol dros y gwan;
Fe'm dwg trwy'r
tonnau mawrion maith
I'w fynwes yn y man.
Ac yna caf fod gyd ag ef
Pan êl y byd a'r dân;
Ac edrych yn ei hyfryd wedd
Gan seinio bythol gân.
William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Anturiaf at ei orsedd fwyn Boed dyoddefiadau pur y groes Iesu yw 'Mrawd a 'Mhriod pur Iesu yw tegwch mawr y byd Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar Mor hyfryd mynd o dwrf y byd Ni fethodd gweddi daer erioed O dyred Ysbryd sanctaidd pur O edrych arnaf Arglwydd mawr Os edrych wnaf i'r dwyrain draw 'Rwyf fel y gwyliwr ar y mur |
Opened were the portals
of the worthy heavens,
I see a sea of blood;
And I may, the most detestable alive,
Wholly get cleansing.
O look upon me, dear Lord,
It is now evening:
Who am full of guilt which is without any
Of thy heavenly, divine gift.
O come quickly, it is fully time,
I am groaning under my pain;
And lead me to the free fount
Of the holiest blood of the Lamb.
- - - - -
Opened were the portals
of the worthy heavens,
I sea a sea of blood:
And I too, the most detestable alive, may
Wholly get healing.
The great throne is now free,
To be heard is the voice of the weak:
O arise henceforth, my sad soul,
Aspire upwards.
And send entreaties numerous times,
Within the portals of heaven:
To be listen to is every defenceless cry,
Directly by him.
I am like a watchman on the wall,
Expecting to see the dawn;
A day to announce the dear Jubilee,
Of my great deliverance.
No fervent prayer ever failed,
To reach as far as heaven;
In in straits, my soul, run,
Directly to him.
I will venture to the throne of grace,
Under the most extremely dark night;
And I will rest, come what may,
On the merit of the blood of the cross.
- - - - -
Opened were the portals
of bright heaven,
Through the great merit of the blood,
That I, the most detestable one, may
Approach before the Father.
The great throne is now free,
The voice of the weak is heard;
O arise now, my sad soul,
Aspire upwards.
O send entreaties numerous times,
Within the portals of heaven;
Listened to is every defenceless cry
Directly by him.
Therefore, thou soul, run to him,
With thy complaint come before him;
The earnest prayer never failed
To reach as far as heaven.
- - - - -
The portal of bright heaven were opened
Through the great merit of the blood;
That I, the most detestable one, might
Draw near before the Father.
He spread his pure hands wide
He wore a crown of thorns;
In order to bleach thee white,
Like delightful fine linen.
Therefore, my soul, run to him,
With thy complaint come before him;
No intense prayer ever failed
To reach as far as heaven.
Ascend I shall to the vault of heaven
To intercede for the weak;
He will bring me through
the vast great waves
To his bosom in a while.
And there I may be with him
When the world goes on fire;
And look in his delightful countenance
While sounding an everlasting song.
tr. 2016,20 Richard B Gillion
|
|